Mae Pennant Walters yn datblygu cynigion ar gyfer cysylltiad grid Foel Trawsnant

Mae Pennant Walters yn cyflwyno cynigion ar gyfer Cysylltiad Grid Foel Trawsnant yn ardal Maesteg a Llangynwyd o CBS Pen-y-bont ar Ogwr a rhannau o CBS Castell-nedd Port Talbot.

Bydd y llinell 66kv yn rhedeg am tua 10 cilometr, gyda 4.4 cilometr o hyn dros y ddaear, a 5.1 cilometr wedi’i gladdu o dan y ddaear. Byddai’r llinell yn cysylltu Fferm Wynt Foel Trawsnant â rhwydwaith y Grid Cenedlaethol.

Cefndir

Ym mis Ebrill 2023, rhoddwyd caniatâd i Fferm Wynt Foel Trawsnant a, phan gaiff ei hadeiladu, bydd yn cynnwys 8 tyrbin ar uchder o 145m i’r blaen. Bydd y fferm wynt yn cael ei hadeiladu ar dir i’r gogledd-orllewin o Faesteg o fewn ffiniau CBS Castell-nedd Port Talbot.

Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol

Mae’r cynnig hwn i gysylltu â’r grid yn cael ei ddosbarthu fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) ac, felly, bydd y cais yn cael ei gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio Amgylchedd Cymru (PEDW), a fydd yn penderfynu a ddylid rhoi caniatâd.

Er mai PEDW fydd yn gwneud penderfyniad yn y pen draw ar y cais am gysylltiad â’r grid, mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr, CBS Castell-nedd Port Talbot a’r cymunedau lleol yn ymgyngoreion allweddol, ac rydym yn awyddus i glywed eu barn ar y cynigion.

Ynglŷn â Pennant Walters

Mae’r cynigion yn cael eu datblygu gan Pennant Walters, is-gwmni i Walters Group; cwmni lleol wedi’i leoli yn Hirwaun yn gweithredu’n genedlaethol ac yn cyflogi oddeutu 500 o bobl.

Mae Pennant Walters wedi datblygu, adeiladu ac erbyn hyn mae’n gweithredu chwe fferm wynt a rhywfaint o solar yn Ne Cymru, gan gynhyrchu cyfanswm o 127MW, gan ei gwneud yn gwmni ynni adnewyddadwy cartref mwyaf Cymru.

Mae Pennant Walters wedi ymrwymo i hysbysu, ymgysylltu ac ymgynghori trwy’r broses ddylunio a chynllunio, er mwyn sicrhau bod cymunedau a rhanddeiliaid lleol yn cael cyfle i gyfrannu eu barn a helpu i lunio’r cynigion.