Map rhyngweithiol
Mae hwn yn fap rhyngweithiol yn dangos y llwybr arfaethedig. Gallwch ddefnyddio’r eiconau ar yr ochr dde i chwyddo i mewn ac allan, neu ddefnyddio’ch llygoden i chwyddo i mewn ac allan a symud o gwmpas y map.
Byddai’r llwybr arfaethedig yn cychwyn i’r gogledd-orllewin o Faesteg, yn lleoliad Fferm Wynt Foel Trawsnant a ganiatawyd yn ddiweddar, a byddai’n mynd ymlaen fel a ganlyn o’r gogledd i’r de:
- O Fferm Wynt Foel Trawsnant i ben Teras y Brenin: Llinell uwchben (OHL) ar bolion pren (llinell goch)
- Teras y Brenin, Teras Davies, Heol Garnwen, Heol Tŷ Gwyn, Heol Castell-nedd: Cebl tanddaearol (llinell las)
- O gyffordd Heol Tŷ Gwyn a Heol Castell-nedd mae’r cebl tanddaearol yn mynd i’r gogledd-orllewin ar hyd Heol Castell-nedd am tua 200m cyn cymryd y tro cyntaf ar y chwith ar hyd y ffordd i Glwb Golff Maesteg.
- Yng Nghlwb Golff Maesteg mae’r llinell danddaearol yn troi i’r chwith, ar hyd trac sy’n mynd tua’r de-ddwyrain cyn cymryd yr ail droad tua’r de-orllewin i lawr yr allt i gyfeiriad Nant Sychbant.
- Ar y gyffordd tair ffordd â Nant Sychbant mae’r cebl tanddaearol yn mynd ar hyd y ffordd i bwynt ger Fferm Sychbant.
- Ger Fferm Sychbant, mae’r llinell unwaith eto’n troi uwchben ac yn gyffredinol mae’n teithio tua’r de i ardal Nant y Castell, rhwng Castell Llangynwyd ac Y Bwlwarcau, yna i fyny’r bryn i goed Craig yr Aber, lle mae’n ymuno â’r rhwydwaith grid presennol.
Ceir rhagor o wybodaeth am y safle, ynghyd ag astudiaethau amgylcheddol a thechnegol, ar y byrddau arddangos ar y dudalen ymgynghori ac yn adran dogfennau cais drafft y wefan hon.