Ymgynghoriad

Ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad statudol ar agor a bydd yn cau ddydd Mercher 30 Ebrill 2025.

Mae’r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i bobl archwilio’r cynlluniau a darparu sylwadau/ymatebion i’w hystyried gan Pennant Walters a’r tîm prosiect cyn i’r cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) gael ei gwblhau a’i gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i’w ystyried cyn penderfynu arno.

Gallwch lenwi’r ffurflen adborth yma.

Byddwn yn cynnal tair arddangosfa gyhoeddus lle gall pobl ddysgu rhagor a thrafod y cynigion ag aelodau o dîm y prosiect.

Arddangosfeydd cyhoeddus 2025

Digwyddiad 1

Dydd Iau 10 Ebrill
11am-2pm


Eglwys Dewi Sant, Stryd y Castell, Maesteg CF34 9BL


Digwyddiad 2

Dydd Iau 10 Ebrill
4 – 7pm


Clwb Rygbi Nantyffyllon, Nant y Ffyrling, Maesteg CF34 0BU


Digwyddiad 3

Dydd Gwener 11 Ebrill
11am – 2pm


Neuadd Bentref Llangynwyd, Bridgend Rd, Llangynwyd CF34 9SW


Fel arall, os nad ydych yn gallu mynychu ein digwyddiadau mae’r byrddau arddangos hefyd ar gael i’w gweld ar ffurf ffeiliau PDF y gellir eu lawrlwytho ac y gellir eu gwneud yn fwy neu’n llai yn ôl dewis personol.

 

 

Diogelu Data

Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn paratoi adroddiad ymgynghoriad yn arddangos sut rydym wedi adolygu ac ymateb i’r holl adborth a dderbyniwyd.  Bydd yr adroddiad hwn yn cyd-fynd â’r cais cynllunio a gyflwynir i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i’w ystyried.

Bydd unrhyw adborth a dderbynnir yn cael ei ddefnyddio at ddiben y cais cynllunio yn unig ac yn cael ei anfon ymlaen i PEDW ac ni fydd yn cael ei ddatgelu i unrhyw drydydd parti.

Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu hanfon ymlaen yn gyfrinachol i PEDW fel y gallwch gael gwybod am eu hymgynghoriad ar y cais ac ni fyddant yn cael eu rhestru yn nogfennaeth y cais cynllunio.

I ddeall beth rydym yn ei wneud â’ch data, darllenwch ein datganiad GDPR yma.

Gallwch ofyn i’ch manylion gael eu dileu unrhyw bryd trwy gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion uchod neu ar y dudalen cysylltu â ni.